Maturi-Tea

Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

I sylw bob myfyriwr aeddfed - o wrando ar eich adborth, mae Undeb Bangor, eich undeb myfyrwyr wedi penderfynu sefydlu ‘Maturi-Tea’!


Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal bob dydd Mercher rhwng 1pm a 3pm, cyfle i fyfyrwyr aeddfed gyfarfod a myfyrwyr aeddfed eraill dros baned. Peidiwch â phoeni, byddwn ni'n darparu'r paneidiau! Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn hefyd yn le i chi ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol, rhwydweithio a dod i wybod am ddigwyddiadau sy'n berthnasol i chi.


Bydd y Maturi-Tea cyntaf yn digwydd ddydd Mercher Tachwedd 14. Gwnewch yn siwr eich bod yn dod i'ch Undeb Myfyrwyr, ar bedwerydd llawr adeilad Pontio.

Comments

Ni wnaed unrhyw sylw. Mewngofnodwch i roi sylw.