Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno syniad a bwrw pleidlais o blaid neu yn erbyn syniad i lywio gwaith Undeb Myfyrwyr. Os oes gennych syniad ynglyn â sut i wneud Undeb Bangor (eich Undeb Myfyrwyr Chi), y Brifysgol neu'r gymuned yn well i fyfyrwyr, gallwch gyflwyno syniad isod. Gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi teitl clir i'r syniad ac yna'n disgrifio'r hyn rydych ei eisiau a pham rydych ei eisiau.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich syniad mae angen i chi gael cefnogaeth myfyrwyr eraill iddo, felly gwnewch yn siwr o'i rannu gyda'ch cyfoedion, ei roi ar gyfryngau cymdeithasol etc. Os ydy myfyrwyr yn hoff o syniad, gallant fwrw pleidlais drosto. Bydd y 5 syniad sy'n cael y mwyaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i gyfarfod Cyngor Undeb Bangor (CUB) a chaiff y cynigwyr eu gwahodd yno i siarad amdanynt. Yna caiff y syniadau eu trafod a bydd CUB yn penderfynu p'un ai i'w mabwysiadu a'u troi'n bolisi Undeb Bangor.
Eisiau gweld beth yn union sy'n digwydd i syniad ar ôl iddo gael ei gyflwyno? Cliciwch yma
Cyflwyno syniad? Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys y canlynol yn y disgrifiad: 'Beth ydych ei eisiau?'; 'Pam rydych ei eisiau?'
Caiff syniadau a gyflwynir cyn 05/02/19 eu hystyried ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Cynhelir cyfarfod nesaf CUB ar 14/02/19
Rhagor o wybodaeth am Gyngor Undeb Bangor
Pwy sy'n eistedd ar Gyngor Undeb Bangor?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at studentvoice@undebbangor.com
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am gymryd rhan yng Nghyngor Undeb Bangor anfonwch e-bost at ruth.plant@undebbangor.com