Digwyddiad
|
Pryd
|
Lle
|
Manylion
|
Lliwio'r Campws yn Biws!
|
Drwy'r Wythnos (03/12/18 to 07/12/18)
|
Ym mhob rhan o’r campws.
|
Ymgyrch weledol y gall Cynrychiolwyr Cwrs gymryd rhan ynddi i godi ymwybyddiaeth am Gynrychiolwyr Cwrs trwy liwio'r campws yn biws gyda llu o falwns. Gall cynrychiolwyr gasglu balwns o Undeb y Myfyrwyr
|
Stondinau Cynrychiolwyr Cwrs
|
Penodol i'r Ysgol - holwch eich cynrychiolwyr
|
Penodol i'r Ysgol - holwch eich cynrychiolwyr
|
Mae hwn yn gyfle i Gynrychiolwyr Cwrs godi eu proffil a gosod stondin neu gynnal digwyddiad bach mewn partneriaeth â'u hysgol i adael i gyd-fyfyrwyr wybod am y pethau gwych sydd wedi cael eu cyflawni mewn ymateb i adborth.
Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ddod o hyd i'w cynrychiolydd cwrs a chynnig unrhyw sylwadau pellach iddynt.
Cadwch lygad amdanynt a holi lle a phryd y caiff stondin ei chynnal yn eich ysgol chi.
|
Bore Coffi'r Cynrychiolwyr Cwrs
|
Dydd Mawrth 04/12/18, 09:00-12:00
|
Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Bangor)
|
Cyfle i Gynrychiolwyr Cwrs ddod i Undeb y Myfyrwyr a siarad â Phwyllgor y Cynrychiolwyr Cwrs a'r tîm Llais Myfyrwyr i fynegi syniadau a chael cymorth.
|
Ffau'r Dreigiau’r Cynrychiolwyr Cwrs
|
Dydd Mercher 05/12/18, 15:00
|
Pontio PL2
|
Fe gewch y cyfle i ffurfio tîm gyda'ch cyd-gynrychiolwyr cwrs a gweithio mewn partneriaeth â'ch ysgol neu'ch coleg i geisio ennill hyd at £300 a chynnig syniad a fydd yn gwella profiad academaidd myfyrwyr yn eich ysgol neu'ch coleg. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch yma - www.undebbangor.com/dragonsden
|
Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs
|
Dydd Mercher 05/12/18, 13:30
|
Pontio, PL2
|
Cynhelir ail Gyngor Cynrychiolwyr Cwrs y semester yn ystod Wythnos y Cynrychiolwyr Cwrs a bydd digonedd i'w glywed ac i gymryd rhan ynddo. Gallwch gynnig eich hun ar gyfer y Panel Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, clywed cyflwyniad gan y Llywydd am yr Arolwg Sefydliadol a chlywed beth mae'r Tîm Technoleg Dysgu wedi bod yn ei ddatblygu. Hefyd, peidiwch ag anghofio am Ffau'r Dreigiau'r Cynrychiolwyr Cwrs.
|