Muhammad Firdaus - IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli

Mae Muhammad Firdaus newydd raddio o’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth. Cafodd ei ethol fel eich Is-lywydd dros Gymdeithasau a Gwirfoddoli.

Mae’n fyfyriwr aeddfed o Singapore a fu’n gadeirydd ar Gymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor, Cadeirydd Urdd yr Ysgrifenwyr, Rheolwr Gorsaf Storm FM, a Chapten y Clwb Jujitsu. Bu’n weithgar iawn â’r Gymdeithas Islamaidd hefyd, gan gynrychioli Mwslemiaid mewn digwyddiadau amlffydd.

Yn ystod ei gyfnod fel Is-lywydd, mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o brosiectau gwirfoddoli Undeb Bangor, gan annog myfyrwyr i fod yn fwy hunangynhaliol. Mae Muhammad yn gobeithio datblygu cyfryngau’r myfyrwyr, yn ogystal â chynyddu cynrychiolaeth ymhlith grwpiau lleiafrifol, e.e. LHDT+, BAME, Pobl Anabl, Trans, a Merched. Mae’n gefnogwr brwd o ymdrechion UMCB i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymreig ymhlith myfyrwyr, ac mae’n ymfalchio o fod yn wirioneddol ‘ryngwladol’.

Cred Muhammad yn gryf bod yn rhaid i newid go iawn ddod o lawr gwlad gyda chefnogaeth myfyrwyr, ac ni fydd yn digwydd dros nos. Mae’n well ganddo gyd-weithio a thrafod yn uniongyrchol â myfyrwyr er mwyn sicrhau’r newid sydd ei angen.

Ei hoff elfen o’r swydd yw siarad â myfyrwyr a dod i wybod mwy am yr hyn sy’n eu tanio, gan ddod o hyd i ffyrdd i’w cefnogi. Mae croeso ichi alw draw i’w weld yn yr Undeb unrhyw bryd!

Mer 04 Rhag 2019

Wholesome Bangor?

Wholesome Bangor? Rwy’ wedi disgrifio ymgyrch Wholesome Bangor fel yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol mwyaf diog erioed, ond beth yn...
No comments